
Systemau Cyflenwi Cynaliadwy
Dyddiad rhyddhau: Bob mis Medi
Achrediad Proffesiynol: IEMA (as part of MSc)
Sefydliad Arweiniol: IBERS, Aberystwyth University
Edrychiad ar ymagweddau arloesol i gynaliadwedd economaidd ac amgylcheddol mewn systemau cyflenwi
Mae angen i gynhyrchwyr, proseswyr, dosbarthwyr a manwerthwyr bwyd a bioseiliedig gydweithio i gynnal cyflenwad cynnyrch er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy. Bydd y modiwl hwn yn tynnu ar yr ymchwil ddiweddaraf i archwilio cysyniad cynaliadwyedd a'r heriau i'w gyflawni. Bydd yn ystyried sut y gellir gwella a llywodraethu cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, ac archwilio dulliau a thechnolegau arloesol sydd ar gael i gefnogi'r broses hon tra'n cynnal cyflenwad o gynhyrchion diogel o ansawdd uchel. Bydd y modiwl hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am gynaliadwyedd a sut y gellir ei wella mewn systemau cyflenwi bioseiliedig a bwyd.
Cynnwys
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a dysgu dan arweiniad, a bydd y pwyslais ar:
Rhestr o'r Unedau
Yr Heriau | Pam fod cyflenwad bwyd a bio-seiliedig yn wahanol, Diffinio cynaliadwyedd a heriau i gyflenwad cynaliadwy |
---|---|
Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Chymdeithasol | Edrychiad beirniadol ar agweddau allweddol ar gynaliadwyedd a sut maent yn cael eu hasesu |
Cynaliadwyedd Maeth ac Iechyd | Bodloni gofynion maethol, diogelwch bwyd ac Un Iechyd mewn cyflenwad cynaliadwy |
Economeg, Nodau Busnes a Chynaliadwyedd | Cysyniadau economaidd allweddol i ddeall cyflenwad cynaliadwy, Nodau busnesau a sut maent yn eu cyflawni |
Llwybrau at Gynaliadwyedd | O masgynhyrchu i gynhyrchu main, A yw main = cynaliadwy? Ymagweddau amgen i'r cyflenwad cynaliadwy |
Pŵer Gwybodaeth | Gwybodaeth a chynaliadwyedd mewn cyflenwad modern bioseiliedig a bwyd, Astudiaeth achos - y gadwyn cyflenwi cig coch |
Gwerth Ychwanegol o Arfer Cynaliadwy | Marchnata cynaliadwyedd, Enw Tarddiad Gwarchodedig a labelu |
Llywodraethu Cynaliadwyedd | Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyflenwad bioseiliedig a bwyd |
Astudiaethau Achos o Gyflewad Cynaliadwydwy | Enghreifftiau o gyflenwad bioseiliedig a bwyd yng Nghymru - bodloni heriau a gwella cynaliadwyedd |
Gwella Cynaliadwyedd ar Waith - Arloesedd mewn Systemau Cyflenwi | Archwilio opsiynau ar gyfer gwella cynaliadwyedd mewn systemau cyflenwi penodol |
Tiwtoriaid
Enw Tiwtoriaid |
---|
Dr Richard Kipling |
Dr Neil MacKintosh |
Testimonials

Brilliant module - it's given me loads to reflect on and given me a broader perspective on complexity. ...For me the most significant piece of research highlighted in this module was the importance of collective action and cooperation to create sustainable networks and synergy. [I will use what I have learned] to support the development of school farms and gardens, education around nutrition and sustainable food production for the next generation (and their families).

Waste is a big issue in the meat industry particularly for smaller processors and butchers as they have smaller profit margins and it’s important for them to maximise their returns. So, I wanted to learn more about the meat supply chain and help to identify if, and where, waste reduction cost savings could be made. The Meat Processing and Sustainable Supply Systems modules have been really useful in helping me to explore new products and ways to help make the meat industry become more of a circular economy.