Sefydliad Arweiniol: IBERS, Aberystwyth University
Trosolwg
Beth yw nwyddau cyhoeddus? Sut y gallent effeithio ar eich busnes?
Mae’r cysyniad o nwyddau cyhoeddus yn dod yn fwyfwy pwysig mewn deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol a gallai effeithio ar unrhyw fusnes a allai gael effaith ar yr amgylchedd. Felly beth yw nwyddau cyhoeddus a pham mae angen i chi wybod amdanynt? Mae Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011) yn disgrifio nwydd cyhoeddus fel “nwydd neu wasanaeth lle nad yw’r budd a dderbynnir gan unrhyw un parti yn lleihau’r buddion sydd ar gael i eraill, a lle na ellir cyfyngu ar fynediad at y nwydd”. Mae nwyddau cyhoeddus yn cwmpasu termau eraill y byddwch o bosib wedi dod ar eu traws megis bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystem a chyfalaf naturiol, a gallai gynnwys llu o fanteision megis aer glan, golygfa dda neu briddoedd iach.
Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer:
llunwyr polisïau,
gweithwyr proffesiynol ym maes cyfnewid gwybodaeth,