
Manwl-fagu Da Byw
Dyddiad rhyddhau: Bob mis Mai
Achrediad Proffesiynol: IEMA (as part of MSc)
Sefydliad Arweiniol: IBERS, Prifysgol Aberystwyth
Dysgwch sut y gall technoleg wella rheoli adnoddau wrth gynhyrchu da byw
Mae manwl-fagu stoc amaethyddol yn darparu data awtomataidd ar-y-pryd er mwyn helpu i fonitro a rheoli cynhyrchiant da byw ar y lefel unigol. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r technolegau manwl diweddaraf ac yn ystyried sut y gellir eu defnyddio i wella monitro a meincnodi mewn systemau magu da byw, rhai dwys a systemau dwys fel ei gilydd. Byddwn hefyd yn ystyried y potensial y mae'r technolegau hyn yn eu cynnig o safbwynt gwella bioddiogelwch, y gallu i olrhain da byw, a lleihau gwastraff y system gyflenwi ehangach.
Cynnwys
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a dysgu dan arweiniad, yn canolbwyntio ar y meysydd isod:
Rhestr o'r Unedau
Cyflwyniad | Braslun cryno o fanwl-dechnolegau ddoe a heddiw |
---|---|
Yr heriau y mae technolegau manwl-fagu stoc yn gallu eu datrys | Cryfderau a chyfyngiadau technoleg manwl ar gyfer cynhyrchwyr. |
Ymchwil i dechnolegau cyfoes | Defnyddio technolegau cyfredol mewn ffyrdd newydd, cip ar yr ymchwil gyfredol i fewn i technolegau penodol |
Technolegau'r dyfodol | Cysyniadau a syniadau |
Nodi'r technolegau perthnasol | Cip ar yr ymchwil i dechnolegau newydd, a sut maent yn cael eu dilysu, eu dylunio a'u datblygu |
Trosglwyddo technolegau rhwng sectorau | Addasu technolegau cyfredol fel y gellir eu defnyddio'n ehangach yn y diwydiant |
Defnyddio allbwn | Sut y mae gwahanol weithredwyr o fewn y system gyflenwi yn gallu defnyddio allbwn o fanwl-dechnolegau |
Mabwysiadau a pharhau â thechnolegau newydd | O'r mabwysiadwyr cynnar, i bontio'r bwlch, i'r brif ffrwd |
Astudiaethau achos | Defnyddio astudiaethau achos i weld sut y gellir defnyddio manwl-dechnolegau |
Tiwtoriaid
Enw Tiwtoriaid |
---|
Dr Neil MacKintosh |
Testimonials

I work with Welsh red meat farmers as part of my job, developing and implementing project work on farms. This can be trialling new technologies for example, so gaining a broader knowledge on the technologies that are out there for precision agriculture use will really benefit me with developing project ideas for the future.