
Dyfodol Pecynnu
Dyddiad rhyddhau: Bob mis Ionawr
Achrediad Proffesiynol: IEMA (as part of MSc)
Sefydliad Arweiniol: IBERS, Aberystwyth University
Dysgwch y ffeithiau am bacio a datblygu strategaeth bacio gynaliadwy ar gyfer eich busnes
Mae rhyw draean o’n bwyd yn cael ei wastraffu ac yng nghyd-destun y sgandal barhaus am lygredd plastig, y deunydd pacio sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ein bwyd a’n diodydd yw’r sail ar gyfer problemau hanfodol ac atebion posibl ar gyfer sicrhau cymdeithas fwy cynaliadwy. Nod y modiwl hwn yw asesu heriau a chyfleoedd pacio, a dysgu busnesau sut i ddatblygu eu strategaethau pacio eu hunain.
Cynnwys
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a dysgu dan arweiniad a fydd yn canolbwyntio ar:
Rhestr o'r Unedau
Pacio ar gyfer ansawdd cynnyrch | Rôl pacio wrth wella’r cynnyrch a gyflwynir i’r cwsmer a lleihau gwastraff bwyd |
---|---|
Pacio ar gyfer diogelwch cynnyrch | Halogi a difrodi’n ddamweiniol ac yn fwriadol a sut gall pacio leihau’r risg |
Pacio ar gyfer marchnata | Sut gall deunydd pacio effeithio ar ddewis cwsmeriaid a sbarduno gwerthiant |
Deunydd pacio ac allyriadau GHG | Cost carbon cynhyrchu deunydd pacio |
Deunydd pacio a’r effaith ar yr amgylchedd | Effeithiau a ymchwiliwyd, o feicroblastigau yn y môr i sbwriel mewn parciau |
Deunydd pacio a’i gost economaidd | Economeg deunyddiau pacio, o’r gost gynhyrchu i’r mannau storio ar gyfer cynnyrch wedi’i bacio |
Rheoli cynaliadwyedd deunydd pacio | Pwy sydd, a phwy ddylai fod yn gyfrifol am wella cynaliadwyedd deunydd pacio? Beth yw’r sbardun i wella? |
Atebion economi gylchol ar gyfer deunydd pacio cynaliadwy | Deunydd pacio a’r hierarchaeth wastraff; ymestyn cadwyn werth deunydd pacio |
Deunydd pacio yn y dyfodol | Wrth i dechnoleg newydd drawsnewid ein systemau cyflenwi bwyd, beth fydd rôl deunydd pacio yn y dyfodol? |
Astudiaethau achos | Heriau ac atebion deunyddiau pacio: ystyried enghraifft o’r byd go-iawn |
Tiwtoriaid
Enw Tiwtoriaid |
---|
Dr Richard Kipling |
Testimonials

"I have completed the Future of Packaging module – the content is excellent! There is a big gap in everyone’s knowledge on this. Everyone wants to do the right thing and it’s unclear as to what this is! The module gave me really good insight to the plastic cycle, deepened my knowledge of the many packaging conundrums; and has pointed me towards what I need to know. I also gained an understanding of EPRs and some of the wider issues surrounding Waste Management."

The position that we have got ourselves into, of an unsustainable relationship with single use items, is retrievable with joined up thinking and some energy and drive. With the necessary direction of travel a circular economy is possible. With my better understanding of packaging and its relationship with the wider world, I am hopefully more able to give guidance, which could be used to provide more sustainable solutions.