Dysgu O Bell
Sut mae dysgu o bell yn cael ei gyflwyno?
Mae pob modiwl dysgu o bell yn para 14 wythnos ac yn gyfan gwbl ar-lein. Mae’r deunydd dysgu ym mhob uned wythnosol yn cynnwys: canllaw astudio y gellir ei argraffu, darlithoedd a thrafodaethau ar fideo, podlediadau y gellir eu lawrlwytho (i chi gael gwrando arnynt yn y car), deunydd darllen dan arweiniad, cwisiau rhyngweithiol, a fforwm trafod ar-lein. I gymryd rhan, bydd yn rhaid i chi fod â band eang sy’n gallu ffrydio fideo YouTube.
Sut mae’r cyfan yn gweithio?
Dyma strwythur modiwl enghreifftiol:
Wythnos 1 | Ymgyfarwyddo |
---|---|
Wythnos 2-4 | Deunydd dysgu – Unedau 1, 2 a 3 |
Wythnos 5 | Aseiniad ymarfer |
Wythnos 6-8 | Deunydd dysgu – Unedau 4, 5 a 6 |
Wythnos 9 | Aseiniad a asesir |
Wythnos 10-13 | Deunydd dysgu – Unedau 7, 8, 9 a 10 |
Wythnos 14 | Aseiniad a asesir |