
Technolegau Hidlo Bilen
Dyddiad rhyddhau: Bob mis Mai
Achrediad Proffesiynol: IEMA (as part of MSc)
Sefydliad Arweiniol: College of Engineering, Swansea University
Lleihau “gwastraff” trwy fireinio eich sgil-gynhyrchion
Ychwanegu gwerth at ‘wastraff’ hylifol – dysgwch fwy am ddefnyddio technolegau pilenni isel eu cost i reoli ac ychwanegu gwerth at ‘wastraff’ hylifol o amaethyddiaeth, a’r diwydiannau bwyd a diod. Bydd y modiwl hwn o werth i unrhyw fusnes sydd â chynnyrch, neu gynnyrch gwastraff, y mae angen ei ddadlygru neu wahanu ei gyfansoddion. Gallai hyn fod yn rhywbeth o wahanu dŵr glân o slyri ffermydd i dynnu’r pwlp o sudd ffrwythau neu ffracsiynu llaeth. Bydd y modiwl hwn o ddiddordeb i broseswyr bwyd, rheolwyr tir a chynghorwyr amaethyddol.
Rhestr o'r Unedau
Cyflwyniad i dechnoleg bilenni | Golwg cyffredinol ar dechnoleg bilenni gan edrych ar y cysyniadau sylfaenol a sut y gellir ei roi ar waith |
---|---|
Morffoleg a gwneud pilenni | Sut y gwneir pilenni a sut maent yn gweithio |
Difwyno a hidlo talpiau | beth sy'n digwydd pan fydd tagfa mewn pilen |
Microhidlo | Cyflwyniad a chrynodeb o ficrohidlo a sut y gellir ei roi ar waith e.e. i wahanu protein maidd o ansawdd uchel mewn cynnyrch llaeth; neu i dynnu microbau. |
Uwch-hidlo | Cyflwyniad a chrynodeb o uwch-hidlo gan edrych effeithiau gwefru e.e. ar gyfer lleihau'r llwyth o halogyddion mewn dŵr gwastraff |
Nanohidlo | Cyflwyniad i nanohidlo; nodweddion pilen nanohidlo a sut y gellir ei roi ar waith e.e. dihalwyno wrth brosesu llaeth |
GWEITHDY | Defnyddio offer ar raddfa ragbrofol i bennu nodweddion hylif o'ch dewis ac adeiladu system hidlo bilen i wahanu'r rhannau cyfansoddol. Bydd y cyfranogwyr yn:
|
Osmosis gwrthdro | Cyflwyniad i osmosis gwrthdro a sut y gellir ei roi ar waith e.e. i gynhyrchu dŵr yfed o ddŵr llygredig |
Osmosis gwrthdro; adfer egni a difwyno | sicrhau bod pilenni yn gweithio yn y modd mwyaf effeithlon posib |
Tiwtoriaid
Enw Tiwtoriaid |
---|
Dr Darren Oatley Radcliff |
Dr Steve Chapman |
Ymchwilwyr sy’n Cyfrannu
Researchers Name | Organisation | Link |
---|---|---|
Testimonials

[I enjoyed] The practical application of filtration through the videos. Lots of good information provided. I will be applying it in my job which involves membrane filtration at a pilot level through all varieties