
Prosesu Cig
Dyddiad rhyddhau: Medi 2019
Achrediad Proffesiynol: IEMA (as part of MSc)
Sefydliad Arweiniol: IBERS, Aberystwyth University
Dysgu am dechnolegau newydd a sefydledig ar gyfer prosesu a datblygu cynnyrch cig
Mae cig a chynhyrchion cig yn gwneud cyfraniad pwysig i gymeriant maetholion yn y diet. Gyda thueddiadau’r farchnad gystadleuol yn y sector cig a galw cynyddol am gig oen a chig eidion Cymreig y tu allan i’r DU, yn ogystal â sector cig gwyn sy’n tyfu; mae diwydiant cig Cymru yn edrych yn barhaus am ddulliau arloesol ac effeithlon i sicrhau twf cynaliadwy.
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar brosesu cig ar gyfer cynhyrchu cig a chynhyrchion cig diogel, iach a maethlon. Darganfyddwch pa mor briodol y gall technegau prosesu cig fod o fudd i’ch busnes.
Mae’r modiwl hwn wedi’i anelu at broseswyr cig, manwerthwyr bach neu fawr, neu unrhyw un sydd am ddechrau busnes newydd yn y sector cig.
Cynnwys
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a sesiynau dysgu dan arweiniad, gan ganolbwyntio ar y meysydd isod:
Rhestr o'r Unedau
Cyflwyniad i brosesu cig | Mathau a chategorïau o gig, cyfansoddiad carcasau, bioleg ac adeiledd cyhyrau a nodweddion cyhyrau, prosesu cig diwydiannol |
---|---|
Prosesu cynradd ar gig coch | Prosesau'r lladd, newidiadau biocemegol ar ôl marw a'u harwyddocâd i ansawdd y cig coch, graddio'r carcasau, a chloriannu ansawdd y cig |
Prosesu cynradd ar ddofednod | Prosesu cynradd ar gig dofednod, newidiadau biocemegol ar ôl marw a'u harwyddocâd ar ansawdd y cig gwyn, graddio'r carcasau, a chloriannu ansawdd y cig |
Diogelwch microbiolegol, ansawdd ac estyn oes silff cigoedd ffres | Microbioleg a dirywiad cig, egwyddorion cadw cig |
Technoleg newydd ym mhrosesu cig | Dulliau newydd o dyneru cig, awtomeiddio a robotiaid |
Cig iach | Cig fel bwyd gweithredol, cynnyrch probiotig, technegau ail-fformiwleiddio |
Datblygu cynnyrch cig | Y cynhwysion a ddefnyddir, mathau o gynnyrch cig |
Cynaliadwyedd cig | Rôl gwyddoniaeth cig mewn amgylchedd byd-eang heriol |
Bydd y modiwl hwn hefyd yn cynnwys ymweliad â Chanolfan Bwyd Cymru, Horeb (neu leoliad tebyg) i roi profiad ymarferol o gigyddiaeth a datblygu cynnyrch cig |
Tiwtoriaid
Enw Tiwtoriaid |
---|
Dr Shikha Ojha |
Testimonials

Waste is a big issue in the meat industry particularly for smaller processors and butchers as they have smaller profit margins and it’s important for them to maximise their returns. So, I wanted to learn more about the meat supply chain and help to identify if, and where, waste reduction cost savings could be made. The Meat Processing and Sustainable Supply Systems modules have been really useful in helping me to explore new products and ways to help make the meat industry become more of a circular economy.

This course is great for people who are in the industry and have a science background but also for people like me who are social scientist and need to gain a broad understanding of meat technology. This will help me in my work managing farmers markets as well as supporting the Cameroon government in developing their local meat industry.