
Bio-adweithyddion ar gyfer y Sector Bwyd-amaeth
Dyddiad rhyddhau: January
Achrediad Proffesiynol: IEMA (as part of MSc)
Sefydliad Arweiniol: Swansea University
Datblygu o’r newydd; neu optimeiddio a chynyddu systemau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cynhyrchu diodydd bragu neu cynhyrchion llaeth meithrin
Mae bio-adweithyddion yn cynnig dull effeithlon ar gyfer cynhyrchu neu buro cynnyrch i’r diwydiannau bwyd a diod, ffermio, fferyllol a chosmetig. Dyma gyfle i weld beth y gallai bio-adweithydd ei gyfrannu at eich busnes chi.
Mae’r diwydiannau llaeth a bragu wedi defnyddio prosesau trosi biolegol i greu ac addasu cynhyrchion am filoedd o flynyddoedd. Yn fwy diweddar, cymhwyswyd systemau bio-adweithyddion i amrywiaeth eang o brosesau megis amaethyddiaeth, bwyd a gofal iechyd, a chynhyrchu cemegau pur. Mae bio-adweithyddion yn darparu amgylchedd rheoledig di-haint neu aseptig i sicrhau ansawdd a phurdeb y cynnyrch terfynol.
Cynnwys
Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i:
- amlinellu a phennu gofod gweithredu wedi’i reoli;
- deall paramedrau allweddol y broses i weithredu bio-adweithyddion yn llwyddiannus;
- dylunio, optimeiddio ac ehangu bio-adweithydd ar gyfer dyletswydd benodol;
- nodi cyfleoedd yn eich busnes a allai elwa o ddefnyddio bio-adweithyddion drwy eu cymharu ag astudiaethau achos.
Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer: cynhyrchwyr bwyd, diod neu gemegau pur ar raddfa fach neu fawr, bio-broseswyr cyffredinol, cynghorwyr bwyd/amaeth, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn prosesau bio-gynhyrchu.
Rhestr o'r Unedau
Introduction to Fermentation Processes |
|
---|---|
Fermentation cultures |
|
The fermentation process: upstream operations |
|
Bioreactors: batch mode |
|
Bioreactors: the CSTR |
|
Bioreactors: Other types |
|
The fermentation process: downstream operations |
|
Workshop | Yogurt-making |
Industrial processes |
|
Case Studies |
Tiwtoriaid
Enw Tiwtoriaid |
---|
Dr Stephen Chapman |
Dr Darren Oatley Radcliffe |
Prof Darren Oatley Radcliffe |