Dysgu Cyfunol
Sut mae Dysgu Cyfunol yn cael ei gyflwyno?
Dysgu o bell gydag elfennau o waith gweithdy yw dysgu cyfunol. Fel gyda’r dysgu o bell, mae pob modiwl cyfunol yn para am 14 wythnos. Mae pob modiwl wedi’i rannu’n unedau ar-lein ac ymarferol. Mae’r elfennau dysgu o bell yn cynnwys: canllaw astudio y gellir ei argraffu, darlithoedd a thrafodaethau ar fideo, podlediadau y gellir eu lawrlwytho (i chi gael gwrando arnynt yn y car), deunydd darllen dan arweiniad, cwisiau rhyngweithiol, a fforwm trafod ar-lein. Felly, er mwyn cymryd rhan, bydd yn rhaid i chi fod â band eang sy’n gallu ffrydio fideo YouTube. Mae’r elfennau gweithdy’n cynnwys rhwng 2 a 5 diwrnod o brofiad ymarferol.
Sut mae’r cyfan yn gweithio?
Dyma strwythur modiwl enghreifftiol:
Wythnos 1 | Ymgyfarwyddo |
---|---|
Wythnos 2-3 | Unedau 1 a 2 – cyflwyniad i’r cysyniadau a pharatoi ar gyfer y gweithdy |
Wythnos 4 | Uned 3 – gweithdy deuddydd |
Wythnos 5 | Aseiniad ymarfer |
Wythnos 6-7 | Deunydd dysgu – Unedau 4 a 5 |
Wythnos 8 | Uned 6 – gweithdy deuddydd |
Wythnos 9 | Aseiniad a asesir |
Wythnos 10-12 | Deunydd dysgu – Unedau 7, 8 a 9 |
Wythnos 13 | Uned 10 – gweithdy undydd |
Wythnos 14 | Aseiniad a asesirt |