MRes mewn BioArloesi
Mae rhaglen gradd ‘Meistr Ymchwil’ yn rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil, yn hytrach nag ar yr elfennau a ddysgir drwy gwrs. Mae’r MRes mewn BioArloesi’n werth 180 o gredydau a gellir ennill y radd drwy gwblhau’n llwyddiannus:
- Unrhyw 2 fodiwl o’ch dewis a ddysgir drwy gwrs
- Ynghyd â Dulliau Ymchwil
- Unrhyw draethawd hir 120 credyd [link to module]
Enghreifftiau yn unig yw llawer o’r modiwlau a ddangosir yn yr esiampl hon. Cewch weld y modiwlau sydd ar gael a’r rhai sydd wrthi’n cael eu datblygu yma [link to study option]. Ychwanegir rhagor o fodiwlau at y rhaglen bob 4 mis felly bydd digonedd o ddewis ar gael.